Posts Tagged ‘Cymraeg’

h1

GIG AGOR DRYSAU – OPENING DOORS! 3.4.14 @21:30

25 March 2014

Nos Iau nesaf cynhelir GIG yr WYL yn yr Hen Lew Du, Aberystwyth am 21:30

Cyfle i bawb (gan gynnwys staff yr WYL) i ymlacio a mwynhau rhai o fandiau roc mwyaf blaenllaw Cymru; 

Y Gwyryf, Delyth Mclean, Mellt.

Tocynnau yn £4 ar y drws/ £3 i fyfyrwyr sy’n dangos cerdyn aelodaeth B.Y.G/ AM DDIM i bawb sydd wedi prynnu tocyn Gwyl.

—————————————————————————————————————————————————————

Next Thursday the 3.4.14 we’ll be hosting our FESTIVAL GIG at Yr Hen Lew Du pub in Aberystwyth from 21:30

A fantastic opportunity for all (including the Festival team) to relax and sample some of the best performers from the Welsh Rock Scene;

Y Gwyryf, Delyth Mclean and Mellt.

Tickets are a bargain £4 on the door/ £3 to students with a B.Y.G membership card and FREE for all Festival Ticket holders!

 

 

h1

PROMO 2014

23 January 2014

Blas o’r hyn sydd i ddod yn ystod AGOR DRYSAU!

A taste of what’s awaiting you at OPENING DOORS!

Cynhyrchwyd gan/ Produced by: Destina Bartley

h1

AGOR DRYSAU – 1 – 4 Ebrill 2014

20 January 2014

 

                 Image

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch o gyhoeddi bod 8fed Gŵyl Agor Drysau yn cael ei chynnal rhwng y 1 – 4 o Ebrill 2014!

Ar y 1af o Ebrill mae Cwmni Theatr Arad Goch yn dathlu ei ben blwydd yn 25 oed ac felly bydd yr Ŵyl eleni yn fwy nag erioed o’r blaen ac yn cynnwys perfformiadau, gweithdai, seminarau proffesiynnol a nifer o ddigwyddiadau ‘fringe’ gyda’r nos.

Bydd perfformwyr yn teithio o Awstralia, America, Yr Eidal, Valencia, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a Chymru i berfformio yn Aberystwyth, Pontardawe, Caerfyrddin, Felinfach, Castell Nedd ac Aberteifi.

“Er mwyn dathlu’r pen blwydd arbennig gyda ffrindiau, rydyn ni wedi gwahodd nifer o gwmniau i ddychwelyd i Gymru ar gyfer yr Ŵyl eleni. Bydd yr ŵyl fel parti mawr ac felly rydyn ni’n eich gwahodd chithau hefyd i fwynhau gwledd o theatr”  

(Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch)